Cancion : Ai Am Fod Haul Yn Machlud Artista : Dafydd Iwan Album : Goreuon Dafydd Iwan Url : https://www.letras10.co/letra-ai-am-fod-haul-yn-machlud-de-dafydd-iwan Ai am fod haul yn machlud Mae deigryn yn llosgi fy ngrudd? Neu ai am fod nos yn bygwth Rhoi terfyn ar antur y dydd? Neu ai am fod côr y goedwig Yn distewi a mynd yn fud? Neu ai am i rywun fy ngadael Rwyf innau mor unig fy myd? Ai am fod golau'r lleuad Yn oer ar ruddiau'r nos? Neu ai am fod oerwynt gerwin Yn cwyno uwch manwellt y rhos? Neu ai am fod cri'r gylfinir Yn distewi a mynd yn fud? Neu ai am i rywun fy ngadael Rwyf innau mor dywyll fy myd? Ond os yw yr haul wedi machlud Mae gobaith yng ngolau'r lloer A chysgod yn nwfn y cysgodion I'm cadw rhag y gwyntoedd oer Ac os aeth cri'r gylfinir Yn un â'r distawrwydd mawr Mi wn y daw rhywun i gadw Yr oed cyn toriad y wawr ========================== Letra descargada de Letras10.co ==========================